Croeso i NEP Cymru OB
Mae'r tîm yn NEP Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw mewn cyfres o ddigwyddiadau
amlwg ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, o chwaraeon rhyngwladol i ddrama o'r safon
uchaf. Os mai adnoddau neu griw sydd angen arnoch, rheolaeth prosiect a chyllido,
stiwdios neu dryciau darlledu allanol fe all NEP Cymru sicrhau proses rwydd o'r
cyfnod cynlluio cynharaf i'r diweddglo gorffenedig.
Mae ein tîm yn uchel ei barch o fewn y diwydiant - gyda’n fflyd bwerus, hyblyg
a’r gefnogaeth gan NEP Broadcasting, fe allwn gynnig pob lefel o gyfleusterau
stiwdio a Darlledu Allanol. Beth bynnag fo’ch gofynnion - digwyddiadau
rhyngwladol yn gofyn am nifer o Dryciau Manylder Uwch neu Safonol i gamera sengl
– dan arweiniaeth ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Tony Cahalane, fe allwn sicrhau y bydd eich prosiect yn un
esmwyth a llwyddianus.
Mae NEP Cymru yn ran o NEP Broadcasting, darparwr gwasanaethau teledu o Ogledd
America, sy'n parhau i ehangu fel grŵp cyfryngau rhyngwladol ac yn arwain y
farchnad ryngwladol gyda dros 500 o weithwyr drwy'r byd. Gyda mwy na 30 o
flynyddoedd o brofiad rhyngom fe all y grŵp gynnig y gwasanaeth cynhyrchu gorau
posib yn y byd sy’n ein caniatau ni yn NEP Cymru i'ch cynorthwyo a’ch cynghori
mewn nifer o feysydd.
Rydym yn gwmni Cymreig sy'n gweithio'n agos gyda'n cwsmeriaid ac yn elwa o
gefnogaeth gref a sgiliau ein staff a'n gweithwyr llawrydd. Gall NEP Cymru gynnig
un ateb syml i'ch holl anghenion cynhyrchu.