Stiwdio 1 yw dewis Channel 4 ar gyfer Poker Lounge:

NEP Cymru OB fydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer rhaglen newydd sbon pocer Presentable – The Poker Lounge, ar Channel 4 yn yr Hydref. .....

NEP Cymru @ Cwpan Ryder 2010:

Gyda cymaint o ddisgwyl am ddyfodiad Cwpan Ryder 2010 i Gymru mae NEP Cymru yn hapus dros ben .....

NEP Cymru @ The Welsh Proms:

Rydym yn falch o fod yn darlledu rhaglenni’r BBC Proms o Gymru eleni. Uchafwynt y wledd gerddorol yma....

NEP Cymru yn ennill cytundeb pêl-droed Rondo Media ar gyfer S4C:

Fe fydd NEP Cymru yn cyflenwi’r cyfleusterau ar gyfer darlledu gemau pêl-droed dydd Sadwrn ....

NEP Cymru @ Llangollen 2010:

Am y tro cynta eleni fe fydd rhaglenni Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn cynnwys darllediadau byw a chyfranniadau o’r pafiliwn mewn Manylder Uwch. ....

NEP Cymru OB @ Y Sioe Frenhinol:

Rydym yn edrych ymlaen i helpu Boomerang ddod ag arbennigedd darlledu i’r digwyddiad blynyddol poblogaidd hwn. ....

NEP Cymru @ Wakestock:

Yn gweithio gyda Avanti ac yn defnyddio HD1 a’i allu i ddarparu dwy ardal gynhyrchu ar wahan fe fydd NEP Cymru yn helpu ....

Ein Pennaeth Sain yw Hoff Ddewis Top Gear:

Mae Dave Pollock, Pennaeth Sain NEP Cymru, wedi ei ddewis unwaith yn rhagor i fod yn gynhyrchydd sain ar gyfer un o gyfresi mwya poblogaidd y BBC, Top Gear.....

Newyddion Diweddaraf

Mae NEP UK wedi agor cwmni adnoddau Darlledu Allanol a Stiwdio yng Nghaerdydd. Fe fydd y cwmni newydd, NEP Cymru OB Ltd., yn cymeryd asedau a staff gan gyd-weinyddwyr Alistair Wardell a Nigel Morrison o Grant Thornton UK LLP, wedi i Grŵp Barcud Derwen ddod i ben yn gynharach y mis hwn.

Dywedodd Steve Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol, NEP UK, “Wedi dirywiad anffodus Grŵp Barcud Derwen, fe aeth NEP ati i gymeryd y cyfle i roi darparwr adnoddau stiwdio a Darlledu Allanol, ag iddo gefnogaeth gref, yn ôl i mewn i Gymru.

Roedd yr hwb gafwyd i’r fenter gan gwsmeriaid a darlledwyr allweddol yn anhygoel, ac fe’n hysbrydolwyd i weithio ddydd a nos i sicrhau y byddai’n llwyddo.”

Fe fydd y cwmni yn gweithredu fel is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr NEP (UK) Investments Ltd a fel chwaer-gwmni i NEP Visions Ltd a Roll to Record Ltd. Tony Cahalane fydd yn arwain y cwmni newydd fydd yn cyflogi 15 aelod o staff o’r swyddfa yng Nghaerdydd.

Dywedodd Tony Cahalane, Rheolwr Gyfarwyddwr, NEP Cymru OB,
“Mae wedi bod yn holl bwysig i ni barhau fel cwmni darlledu Cymreig a rydym yn hapus dros ben ein bod nawr yn rhan o un o’r cwmniau Darlledu Allanol rhyngwladol mwyaf. Mae hyn yn rhoi cefnogaeth a sicrwydd sydd ei angen arnom ar hyn o bryd tra’n parhau i fod yn agos at nifer o’n prif gwsmeriaid gartref. “


Newyddion Arall
Stiwdio 1 yw dewis Channel 4 ar gyfer Poker Lounge

NEP Cymru OB fydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer rhaglen newydd sbon pocer Presentable – The Poker Lounge, ar Channel 4 yn yr Hydref.

Bydd y rhaglen yn cael ei ffilmio yn Stiwdio 1 a mae’r cynhyrchwyr yn gobeithio cyfuno steil ac agosrwydd - bydd chwarae am arian mawr wrth i rai o chwaraewyr pocer gorau’r byd ymrafael am y brif wobr.

Fe fyddwn hefyd yn darparu cyfleusterau ar gyfer cyfres pocer The Full Tilt gan Presentable.


NEP Cymru @ Cwpan Ryder 2010

Gyda cymaint o ddisgwyl am ddyfodiad Cwpan Ryder 2010 i Gymru mae NEP Cymru yn hapus dros ben o fod yn rhan o’r digwyddiad, yn cynnig cyfleusterau Darlledu Allanol a golygu symudol i raglenni Slam Media ar gyfer S4C.

Gydag unedau symudol, ardal gyflwyno a 3 safle golygu Avid yno, byddwn yn cynnig y gwasaneth gorau posib o’r chwarae byw yn ogystal â blas o gyffro’r digwyddiad i wylwyr S4C.

Mae Slam Media yn is-gwmni newydd ei greu o Indus yn arbennigo mewn rhaglenni chwaraeon a digwyddiadau.


NEP Cymru @ Proms yn y Parc

Rydym yn falch o fod yn darlledu rhaglenni’r BBC Proms o Gymru eleni. Uchafwynt y wledd gerddorol yma, fel pob blwyddyn, yw noson olaf y Proms ar Fedi’r 11eg a bydd ein darllediad byw o Proms yn y Parc o Barc Singleton yn Abertawe yn chwarae rôl allweddol yn narllediad y BBC led-led y Deyrnas Unedig.


NEP Cymru yn ennill cytundeb pêl-droed Rondo Media ar gyfer S4C

Fe fydd NEP Cymru yn cyflenwi’r cyfleusterau ar gyfer darlledu gemau pêl-droed dydd Sadwrn drwy gydol y tymor ar gyfer rhaglenni newydd Sgorio ar S4C. Fe fyddwn hefyd yn cynnig gwasanaeth Manylder Uwch o gemau rhyngwladol a Chwpan.


NEP Cymru @ Llangollen 2010

Am y tro cynta eleni fe fydd rhaglenni Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn cynnwys darllediadau byw a chyfranniadau o’r pafiliwn mewn Manylder Uwch.

Fe fyddwn yn cynnig dau gyfleuster cynhyrchu ar wahan o fewn HD1 a mae’r ddarpariaeth ôl-gynhyrchu gyda’r diweddara yn maes.


NEP Cymru OB @ Y Sioe Frenhinol

Rydym yn edrych ymlaen i helpu Boomerang ddod ag arbennigedd darlledu i’r digwyddiad blynyddol poblogaidd hwn.

Bydd NEP Cymru yn darparu ystod o ddarllediadau byw gan ddefnyddio HD1 a OVT1. Gyda 12 o ystafelloedd Avid ni fydd yn gyfrifol am y ddarpariaeth ôl-gynhyrchu yn ogystal â’r darllediad allanol ei hun.


NEP Cymru @ Wakestock

Yn gweithio gyda Avanti ac yn defnyddio HD1 a’i allu i ddarparu dwy ardal gynhyrchu ar wahan fe fydd NEP Cymru yn helpu dod â hwyl yr wyl unigryw hon i’r gynulldeidfaoedd adref.


Ein Pennaeth Sain yw Hoff Ddewis Top Gear

Mae Dave Pollock, Pennaeth Sain NEP Cymru, wedi ei ddewis unwaith yn rhagor i fod yn gynhyrchydd sain ar gyfer un o gyfresi mwya poblogaidd y BBC, Top Gear.

Mae Dave newydd gychwyn gweithio ar y 6ed cyfres gyda thîm cynyrchu Top Gear – fe yw eu dewis cynta fel goruchwyliwr sain bob tro. .