Tryciau Darlledu Allanol NEP Cymru:

Mae fflyd ddigyffelyb tryciau Darlledu Allanol NEP Cymru ar flaen y gad mewn arloesedd technegol

Darllenwch mwy..

Sellig Mastermind

Stwidios NEP Cymru

Mae stwidios NEP Cymru yn cynnig popeth fyddai angen arnoch gan gyfleuster o’r raddfa uchaf ynghyd â’r fantais o fod wedi’ch lleoli mewn prifddinas fywiog. Gyda’i amrwyiaeth o leoliadau, ddiwylliant byw, bariau cŵl a gwestai chwaethus, mae Caerdydd yn safle delfrydol i’ch cynhyrchiad ac yn le gwych i ddadflino wedi diwrnod ffilmio prysur. Os yn edrych am westy pum seren fel Gwesty & Spa St Davids ym Mae Caerdydd, gwestai “boutique” llai o faint neu’n chwilio am gyfleustra Gwesty’r Copthorne gerllaw, mae digon o amrywiaeth llety at bob dant.


Mae cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol yn golygu bod ein stwidios yn hawdd i’w cyrraedd boed ar dren, awyren neu mewn car a mae digonedd o lefydd parcio di-dal ar y safle.


Stiwdio 1

Yn mesur 7500 troedfedd sgwâr (696 m2), mae gan Stiwdio 1 ddigon o le i gadw’r set mwya anturus. Fe all ei grid goleuo reoli hyd at 345 o bylwyr tra fod y pantograffiau wedi eu gyrru gan fodur ac yn dod gyda cebl estynedig 32 amp, â’r gallu i godi 50 Kg.


Dros y pedair mlynedd ddiwetha, mae Stiwdio 1 wedi ei haddasu i gynnwys ystod eang o gynhyrchiadau. Mae’r gofod agored wedi ei ddefnyddio ar gyfer ffilmiau, dramau, operau sebon, adloniaeth ysgafn, hysbysebion a nifer o sioeau cwis. Fe all y stiwdio ddal cynulleidfa o hyd at 300 o bobl. Mae’r awyrgylch greir yno heb ei ail. Mae arbennigedd NEP Cymru yn cynnig pecyn cyfleuster cyflawn, ond fe all cwsmeriaid logi’r stiwdio’n unig.

 

 

 

Stiwdio 2

Fe all ein stwidio llai, yn mesur 400 troedfedd sgwâr, gael ei llogi unai am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan. Mae’n ddelfrydol ar gyfer darnau i gamera, cyfweliadau llai neu gynhyrchiadau bach megis rhaglenni coginio syml. Erbyn Gwanwyn 2011 fe fydd yn cael ei datblygu i gynnwys nifer o gefndiroedd ynghyd â chyfleusterau goleuo gwell ag iddynt amryw o osodiadau wedi eu storio fydd yn medru gael eu hailalw drwy gyffyrddiad un botwm.